1 John 5:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s gwyddom y vot ef yn ein clywet, pa beth pynac a archom, gwyðom vot y ni ein airch y archasam arno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os gwyddom mai ein gwrando y mae, pa beth bynnag a ofynom, gwyddom fod genym y gofyniadau a ofynasom Ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os gwyddom Ei fod yn gwrando arnom, pa beth bynnag a ofynnom, gwyddom fod gennym y pethau a ofynasom ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydyn ni'n gwybod ei fod e'n gwrando arnon ni, dŷn ni'n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni'n gofyn amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os gwyddom ei fod yn ein gwrandaw ni, pa beth bynnag a ofynnom, ni a wyddom ein bod yn cael y ceisiadau a geisiasom ganddo.