1 John 5:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s gwyl nep ei vrawt yn pechu pechot, ar ny d yvv h y d angeu, archet, ac ef a rydd yddaw vywyt ’sef ir ei ny phechant y d angeu. Y mae pechot y d angeu: nyd wyf yn dywedyt y dleyt‐weðiaw drosto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os rhyw un a welo ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, gofyn fydd iddo, a rhydd Duw iddo fywyd i’r rhai sy’n pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnw y dywedaf y bo iddo ofyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod heb fod i farwolaeth, fe ofyn ac fe rydd iddo fywyd, i’r rhai nad ydynt yn pechu i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd am iddo ddeisyfu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy'n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae'r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os gwl unrhyw un ei gydaelod yn cyflawni pechod nad yw'n bechod marwol, dylai ofyn, ac fe rydd Duw fywyd iddo hynny yw, i'r rhai nad yw eu pechod yn farwol. Y mae pechod sy'n farwol; nid ynglu375?n hwn yr wyf yn dweud y dylai weddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, efe a geisia, a Duw a rydd iddo fywyd — i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar geisio o hono.