1 John 5:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyddom mae pwy pynac a anet o Ddyw, na phecha: eithyr hwn a genetlwyt o Dduw, y caidw ehun, a’r Vall ny chyfwrdd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyddom fod pob un a genhedlwyd o Dduw ddim yn pechu, eithr yr hwn a genhedlwyd o Dduw sydd yn ei gadw ei hun, a’r drwg nid yw’n cyffwrdd ag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddom nad oes neb sy’n hanfod o Dduw yn pechu, ond y mae’r hwn a hanoedd o Dduw yn ei warchod ef, ac nid yw’r un drwg yn cyffwrdd ag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni a wyddom nad yw'r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae'r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni a wyddom nad yw y neb sydd wedi ei genhedlu o Dduw yn pechu; eithr y mae yr hwn a genhedlwyd o Dduw yn ei gadw ef, ac nid yw yr Un Drwg yn cyffwrdd âg ef.