1 John 5:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn hynn y gwyddom y carwn blant Dyw, pan ym yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymynneu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrth hyn y gwyddom mai caru plant Duw yr ydym, pan Duw a garom, ac Ei orchymynion a gadwom;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan garom Dduw a phan wnelom Ei orchmynion Ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn gwneuthur ei orchymynion ef.