1 John 5:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ni wyddom ddyvot Map Duw, ac a roes y ni veddwl y adnabot yr hwn, ys y gy wir ac yð y m ni yn y cy wir hwnw, ’sef yn y Vap ef Iesu Christ: hwn yma ’sy wir Dduw, a bywyt tragythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod, ac y rhoddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom y Gwir Un; ac yr ydym yn y Gwir Un, yn Ei Fab, Iesu Grist. Hwn yw’r Gwir Dduw a bywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod ac wedi rhoddi i ni synnwyr i adnabod yr un gwir. Ac yr ydym yn yr un gwir, yn Ei Fab Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a bywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw, a'r bywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi'n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi'n huno â'r gwir Dduw am ein bod ni wedi'n huno â'i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy'r unig wir Dduw, a fe ydy'r bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac wedi rhoi inni ddealltwriaeth, er mwyn inni adnabod yr Un gwir; ac yr ydym ni yn yr Un gwir, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom yr Un Gwirioneddol; ac yr ydym ni yn yr Un Gwirioneddol, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw y Gwirioneddol Dduw a bywyd tragwyddol.