1 John 5:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn yw’r Iesu Christ y ddaeth trwy ddw f r a’ gwaet, ny trwy ddw f r yn vnic, amyn trwy ddw f r a gwaet: a’r yspryt yw’r hwn ’sy yn testio: can ys yr Yspryd ysy dd wirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn yw’r Hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma’r hwn a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dŵr yn unig ond yn y dŵr ac yn y gwaed: a’r ysbryd sydd yn tystio, oherwydd mai’r ysbryd yw’r gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma'r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A'r Ysbryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Iesu Grist — daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a'r gwaed. Ac mae'r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai'r Ysbryd ydy'r gwirionedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r un a ddaeth drwy ddu373?r a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddu373?r yn unig, ond trwy'r du373?r a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dyma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed. A'r Yspryd yw yr hwn sydd yn tystiolaethu, oblegyd yr Yspryd yw y Gwirionedd.