1 Kings 1:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dos at y brenin Dafydd a dweud wrtho, ‘Fy mrenin, syr, wnest ti ddim addo i mi mai fy mab i, Solomon fyddai'n frenin ar dy ôl di? Dwedaist mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. Felly sut bod Adoneia'n frenin?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, 'Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, "Solomon dy fab a deyrnasa ar fy l; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd"? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?'