1 Kings 1:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi aberthu llond lle o wartheg, lloi wedi eu pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion di i gyd ato, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab pennaeth y fyddin. Ond gafodd dy was Solomon ddim gwahoddiad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.