1 Kings 1:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o'i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi eu pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna ble maen nhw'n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Adoneia!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei u373?ydd, ac yn ei gyfarch, 'Byw fyddo'r brenin Adoneia!'