1 Kings 1:51 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni'r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e'n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i'r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â'r cleddyf.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mynegwyd i Solomon, "Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, 'Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was 'r cledd.'"