1 Kings 10:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o'r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.