1 Kings 11:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i'r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo.