1 Kings 11:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda'i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i'm gwlad fy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw, a bod Joab capten y llu hefyd wedi marw, dywedodd wrth Pharo, "Gad imi fynd i'm gwlad fy hun."