1 Kings 11:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un arall wnaeth droi yn erbyn y brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, Serŵa, yn wraig weddw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un arall a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin oedd Jeroboam fab Nebat, Effratead o Sereda, a swyddog i Solomon; gwraig weddw o'r enw Serfa oedd ei fam.