1 Kings 11:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, Wele fi yn rhwygo'r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrth Jeroboam, "Cymer ddeg o'r darnau, oherwydd fel hyn y dywedodd ARGLWYDD Dduw Israel: 'Yr wyf ar rwygo'r deyrnas o afael Solomon, a rhoi i ti ddeg o'r llwythau.