1 Kings 11:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel.