1 Kings 11:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a'm barnedigaethau, fel Dafydd ei dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, a bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf hyn am ei fod wedi fy ngwadu i ac addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Chemos duw Moab, a Milcom duw'r Ammoniaid, ac am nad yw wedi cerdded yn fy llwybrau i fel ei dad Dafydd, na gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf fi, sef cadw fy ordeiniadau a'm barnedigaethau.