1 Kings 11:38 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i — bod yn ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti du375? sicr fel y gwneuthum i Ddafydd.