1 Kings 11:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddo fynd yn hŷn dyma ei wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd Dafydd ei dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.