1 Kings 11:40 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i'r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Solomon yn ceisio lladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A cheisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond ffodd Jeroboam draw i'r Aifft at Sisac brenin yr Aifft, ac yno y bu hyd farwolaeth Solomon.