1 Kings 12:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dywed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi ei roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, "Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: 'Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.' Ie, dyma a ddywedi wrthynt: 'Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!