1 Kings 12:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw'r ARGLWYDD tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan yr ARGLWYDD, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarodd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.