1 Kings 12:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo: “Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd? Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na! Yn ôl adre bobl Israel! Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!” Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin: "Pa ran sydd i ni yn Nafydd? Nid oes cyfran inni ym mab Jesse. Adref i'th bebyll, Israel! Edrych at dy du375? dy hun, Ddafydd!" Yna aeth Israel adref.