1 Kings 12:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd holl dylwyth Jwda a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam fab Solomon.