1 Kings 12:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch mynd i ryfela yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid; ewch yn l adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.'" A gwrandawsant ar air yr ARGLWYDD, a dychwelyd adref yn l gair yr ARGLWYDD.