1 Kings 12:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli. Bobl Israel, dyma'r duwiau wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, "Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth chwi i fyny o'r Aifft."