1 Kings 12:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i'r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe'n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i'r teirw roedd wedi eu gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe'n apwyntio offeiriaid i'r allorau roedd e wedi eu codi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sefydlodd Jeroboam u373?yl o bererindod ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, fel yr u373?yl o bererindod oedd yn Jwda; ac yr oedd yntau yn offrymu ar yr allor. Dyna sut y gwni ym Methel, ac aberthu i'r lloi a luniodd; hefyd fe osododd ym Methel offeiriaid yr uchelfeydd a godwyd ganddo.