1 Kings 12:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis (dyddiad roedd wedi ei ddewis o'i ben a'i bastwn ei hun), dyma Jeroboam yn aberthu anifeiliaid ar yr allor wnaeth e yn Bethel. Roedd wedi sefydlu Gŵyl i bobl Israel, a mynd i fyny at yr allor ei hun i losgi arogldarth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe offrymodd ar yr allor a wnaeth ym Methel ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis. Dyfeisiodd ddyddiad iddo'i hun, lluniodd u373?yl o bererindod i'r Israeliaid ac aeth ef ei hun at yr allor i offrymu.