1 Kings 12:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn."