1 Kings 13:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a'i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: "Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.'"