1 Kings 13:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digwyddodd rhywrai ddod heibio a gweld y corff ar y ffordd, gyda'r llew yn ei ymyl, ac aethant ac adrodd yr hanes yn y dref lle'r oedd y proffwyd oedrannus yn byw.