1 Kings 13:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nag ymosod ar yr asyn.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
aeth y proffwyd, a chael y corff ar y ffordd, a'r llew a'r asyn yn sefyll yn ei ymyl. Nid oedd y llew wedi bwyta'r corff na llarpio'r asyn.