1 Kings 13:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o'i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i'r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a'i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i'r uchelfeydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni throdd Jeroboam oddi wrth ei ffordd ddrygionus wedi'r digwyddiad hwn. Parhaodd i wneud offeiriaid uchelfeydd o'r bobl yn ddiwahn; byddai'n urddo pwy bynnag a ddymunai yn offeiriaid uchelfeydd.