1 Kings 13:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu y brenin air gŵr DUW, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi ei hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gu373?r Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, "Cydiwch ynddo!" Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n l.