1 Kings 14:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeëdig a'r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n mynd i wneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam. Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel, y caeth a'r rhydd. Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboam ac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dygaf ddrwg ar deulu Jeroboam, a difa pob gwryw, caeth neu rydd, sy'n perthyn iddo yn Israel; ysaf yn llwyr deulu Jeroboam, fel un yn llosgi gleuad, nes y bydd wedi llwyr ddarfod.