1 Kings 14:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl Israel a alarant amdano ef, ac a'i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i'r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at ARGLWYDD DDUW Israel, yn nhŷ Jeroboam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl, ac yn dod i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd holl Israel yn galaru amdano ac yn dod i'w angladd, oherwydd hwn yn unig o deulu Jeroboam a gaiff feddrod, gan mai ynddo ef o blith teulu Jeroboam y cafodd ARGLWYDD Dduw Israel ryw gymaint o ddaioni.