1 Kings 14:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o'r wlad dda hon a roddodd efe i'w tadau hwynt, ac a'u gwasgar hwynt tu hwnt i'r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i Afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi ei wylltio trwy godi polion pren i'r dduwies Ashera.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel nes y bydd yn siglo fel brwynen mewn llif, ac yn diwreiddio Israel o'r tir da hwn a roddodd i'w hynafiaid, a'u gwasgaru y tu hwnt i'r Ewffrates, am iddynt lunio'u delwau o Asera a chythruddo'r ARGLWYDD.