1 Kings 14:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahïa y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Jeroboam yn dweud wrth ei wraig, “Rho ddillad gwahanol amdanat fel bod neb yn gwybod mai ngwraig i wyt ti. Yna dos i Seilo, ble mae'r proffwyd Achïa yn byw. Fe oedd y proffwyd ddwedodd wrtho i y byddwn ni'n frenin ar y bobl yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Jeroboam wrth ei wraig, "Newid dy ddiwyg rhag i neb wybod mai gwraig Jeroboam ydwyt; yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Aheia, a ddywedodd wrthyf y byddwn yn frenin ar y bobl hyn.