1 Kings 14:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem — y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Rehoboam fab Solomon yn frenin ar Jwda; un a deugain oed oedd ef pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.