1 Kings 15:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Nant Cidron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.