1 Kings 15:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda — pawb yn ddieithriad — i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gorch-mynnodd y Brenin Asa holl Jwda yn ddieithriad i gymryd meini a choed Rama, y bu Baasa yn ei hadeiladu; a defnyddiodd hwy i adeiladu Geba Benjamin a Mispa.