1 Kings 15:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a'i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwyn yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Baasa fab Aheia o lwyth Issachar gynllwyn yn ei erbyn, a'i daro i lawr ger Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid, gan fod Nadab yn gwarchae ar Gibbethon gyda holl Israel.