1 Kings 15:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd yr un enaid byw o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei was Achïa o Seilo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn frenin, trawodd holl deulu Jeroboam a'u difa, heb adael un perchen anadl i Jeroboam, yn unol gair yr ARGLWYDD drwy ei was Aheia o Seilo.