1 Kings 15:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu wrth ddigio yr ARGLWYDD, Duw Israel.