1 Kings 16:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o'i flaen ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nac unrhyw frenin o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel o'i flaen.