1 Kings 16:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, pan oedd yn gosod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei adeg ef ailadeiladwyd Jericho gan Hiel o Fethel. Yr oedd ei sylfaenu wedi costio iddo Abiram, ei gyntafanedig, a gosod ei dorau wedi costio iddo Segub ei fab ieuengaf yn unol gair yr ARGLWYDD drwy Josua fab Nun.