1 Kings 16:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda teulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd gair yr ARGLWYDD wedi dod at Baasa a'i deulu drwy'r proffwyd Jehu fab Hanani am y drygioni a wnaeth yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy ei ddigio 'i weithredoedd, a dod yn debyg i deulu Jeroboam; a hefyd am iddo ddinistrio hwnnw.