1 Kings 17:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i'm mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai hi, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stn; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi."