1 Kings 18:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i'th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a'r genedl, na chawsent dydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn wired bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, 'Nid yw yma', byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.