1 Kings 18:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a'th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a'm lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD o'm mebyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.